Mae Mark Evans yn dod ag agwedd ‘gallu gwneud’ nodweddiadol Gymreig a dosbarth gweithiol i lywyddiaeth Cymdeithas y Cyfreithwyr, ysgrifenna Paul Rogerson. Mae’n dal record byd hefyd

BYWGRAFFIAD

GANWYD

Llanelwy, Gogledd Cymru

 

ADDYSG

Ysgol Uwchradd Treffynnon (1982-1989)

LLB, Coleg Polytechnig Caerlŷr (1992)

Coleg y Gyfraith, Caer (1993)

Derbyniwyd fel cyfreithiwr (1995)

 

ROLAU

Hyfforddai, partner cyflogedig, partner ecwiti, cyfarwyddwr/cyfranddaliwr, ymgynghorydd

Allington Hughes Solicitors/Allington Hughes Ltd (1993-2022)

Tiwtor, Prifysgol y Gyfraith (Manceinion, Lerpwl a Chaer) (2021-)

Aelod o Gyngor Swydd Gaer a Gogledd Cymru, Cymdeithas y Cyfreithwyr Cymru a Lloegr (2015-2025)

Cadeirydd, Pwyllgor Cymdeithas y Cyfreithwyr Cymru (2017-2021)

Aelod o Gyngor Gogledd Cymru, Bwrdd Cenedlaethol Cymru Cymdeithas y Cyfreithwyr (2022-)

Dirprwy is-lywydd, is-lywydd, Cymdeithas y Cyfreithwyr (2023-2025)

 

YN ADNABYDDUS AM

Llywydd, Cymdeithas y Cyfreithwyr (2025-2026)

Mark Evans outside Chancery Lane

Source: Darren Filkins

Mae Mark Evans yn gyfreithiwr sydd wedi’i siapio gan werthoedd ei fagwraeth.

Gwerthoedd Cymreig, meddai wrthyf. Undod a chymuned dosbarth gweithiol – ond hefyd hunan-ddysg ac uchelgais.

Gwirfoddoli, hefyd. Mae bron i un o bob tri o bobl dros 16 oed yn gwirfoddoli’n ffurfiol yng Nghymru. Yn Lloegr, mae’r gyfran yn hanner hynny.

Efallai mai Evans yw eu harchdeip. Mae ei weithgareddau lu y tu allan i’r gwaith wedi cynnwys gwasanaethu fel llywodraethwr ysgol a rhedeg y grŵp sgowtiaid lleol. Hynny ar ben yr holl rolau y mae wedi’u cyflawni ar Gyngor, bwrdd a phwyllgorau Cymdeithas y Cyfreithwyr.

Mae yn y gwaed. Mae llywydd newydd Cymdeithas y Cyfreithwyr yn fab i weithiwr dur amddifad a fu’n byw mewn cartref plant nes iddo gael ei fabwysiadu pan oedd yn 12 oed. Ond daeth tad Mark Evans yn un o gonglfeini’r gymuned hefyd; gan gadeirio bwrdd llywodraethwyr ysgol, yn union fel yr aeth ei fab ymlaen i wneud.

‘Mae’n beth etifeddol mewn ffordd yng Nghymru,’ meddai Evans. ‘Roedd fy nhad bob amser o’r farn mai addysg oedd y llwybr i wella dy hun. Doedd e byth yn cwyno am ei gefndir. Roedd e bob amser yn dweud, “gelli di wneud yn well”. Mae Cymru’n rhyfedd gan nad oes gennym ni system ddosbarth mewn gwirionedd. Felly byddai fy mam hefyd yn dweud wrtha i, “gelli di siarad ag unrhyw un. Does dim ots beth yw dy reng neu dy lefel”.’

Felly dau frawd Evans, y ddau yn hŷn nag ef, oedd y cyntaf yn y teulu i fynd i’r brifysgol. Mae Mark, a addysgwyd mewn ysgol wladol, ymhlith y 18% o gyfreithwyr sy’n dod o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is, yn ôl ystadegau amrywiaeth yr SRA. Felly, byddai wedi bod yn gymwys ar gyfer Cynllun Mynediad Amrywiaeth Cymdeithas y Cyfreithwyr, pe bai wedi bod ei angen.

Roedd arian bob amser yn brin, ond roedd rhieni Evans yn bachu ar bob cyfle i ehangu ei orwelion. Mae’n cofio gwyliau bws i’r cyfandir pan oedd yn ei arddegau gan eu bod yn fwy fforddiadwy na hedfan. Roedd pobl yn arfer mynd ar y bws i’r Costa Brava bryd hynny, fel y gallaf dystio fy hun.

‘Dyma pryyd wnaeth fy rhieni ddarganfod “mynd dramor” am y tro cyntaf,’ gwena. ‘Awstria, yr Almaen. Gan fod tri ohonom ni, roedd rhaid i mi eistedd wrth ymyl rhywun arall bob tro, felly byddwn i’n siarad â nhw. Fe wnaeth y cyfan agor fy llygaid i i’r byd mewn ffordd.’

Yn ei arddegau, roedd Evans eisiau ymuno â’r heddlu. Dim ond pan wnaeth athro hanes yn yr ysgol sicrhau wythnos o brofiad gwaith iddo mewn practis yn Ninbych y dechreuodd feddwl o ddifrif am y gyfraith. ‘Fe wnes i syrthio mewn cariad â’r gyfraith,’ cofia.

Arweiniodd hyn at yrfa 30 mlynedd gydag Allington Hughes, practis cyffredinol ar y stryd fawr â swyddfeydd y ddwy ochr i Glawdd Offa. Aeth Evans ymlaen o fod yn hyfforddai i fod yn bartner ecwiti ac yna’n ymgynghorydd, cyn gadael dair blynedd yn ôl i ymuno â’r byd academaidd fel darlithydd ym Mhrifysgol y Gyfraith.

Record byd

Nid yw Chancery Lane wedi cael llawer o lywyddion dosbarth gweithiol, ond efallai mai Mark Evans yw’r unig un sy’n dal record byd. Yn 2020, fel rhan o dîm Cymdeithas Alzheimer, roedd yn un o 37,966 o bobl a gwblhaodd farathon o bell mewn 24 awr fel rhan o Farathon Llundain Virgin Money (Y DU). Cynhaliwyd y digwyddiad ar ôl i Farathon Llundain gael ei ohirio oherwydd Covid-19.

 

Roedd y daith 26.2 milltir honno yn un hynod bersonol. ‘Yn 2014, bu farw fy mam ac aeth fy nhad i gartref gofal,’ meddai. ‘Dros y chwe blynedd nesaf, gwaethygodd iechyd dad yn raddol. Fe wnes i fagu llawer o bwysau a doedd gen i ddim egni o gwbl. Felly, yn 2019 fe es i gampfa fy ngwraig a chofrestru i wneud “couch to marathon” mewn 10 mis – neu’r “Chester Triple” [10K, hanner marathon, marathon].’ Collodd Evans ddwy stôn a hanner ac, ers hynny, mae wedi sefydlu’r rhwydwaith LegalRunner sy’n tyfu’n gyflym. ‘Mae’n therapiwtig iawn, oherwydd gelli di siarad â phwy bynnag rwyt ti’n rhedeg gyda nhw. Byddan nhw’n deall sut beth yw bod yn gyfreithiwr. Mae dynion yn arbennig yn agor i fyny pan maen nhw’n rhedeg, oherwydd rydych chi ochr yn ochr â’ch gilydd ac mae’n lle caeedig. Rydych chi’n gallu siarad â rhywun heb edrych arnyn nhw!’

 

Law Society president Mark Evans running

Source: Michael Cross

Yn rhwydweithiwr naturiol, mae uniaethu â chyfreithwyr plwyfol sy’n cael trafferth â throen ymarfer cyfoes yn ail natur iddo. Yn ystod ei amser yn Allington Hughes, bu’n gadeirydd, yn weithredwr rheoli, yn bartner datblygu busnes (‘meysydd gwaith newydd, cynllunio ar gyfer olyniaeth a thwf’), yn bartner personél ac yn COLP/COFA.

‘Rwy’n hen gyfarwydd â thrafferthion cyfreithwyr y stryd fawr,’ meddai. ‘Er enghraifft, roedd gan fy nghwmni 11 neu 12 o gyfreithwyr dyletswydd [trosedd], ond fe gollon ni bobl i Wasanaeth Erlyn y Goron. Ac yn gyffredinol, mae recriwtio a chadw yn anodd os ydych chi mewn lleoliad gwledig neu dref fach. Mae’r atyniad o symud ymlaen i ddinas fawr i gael cyflog gwell yno drwy’r amser.’

Felly rydyn ni’n dychwelyd i gymuned – ‘mae’n rhoi nerth i chi’ – a fydd yn un o themâu llywyddiaeth Evans. Nid oes unrhyw beth yn fwy canmoladwy iddo nag ymarfer yn y lle wnaeth eich siapio chi, a rhoi rhywbeth yn ôl i’r lle hwnnw.

‘Yn amlwg, mae gan bawb ddewis ynglŷn â beth maen nhw eisiau ei ymarfer a ble,’ ychwanega. ‘Mae wedi rhoi llawenydd mawr i mi fy mod wedi dod i fyw ac ymarfer yn y Gogledd. Mae bod yn agos at adre, bod yn rhan o’r gymuned, wedi bod o fudd i mi ac wedi rhoi pethau i mi na fyddwn i wedi eu cael pe bawn i wedi symud i ffwrdd.’

Un peth sy’n corddi Evans yw diffyg prentisiaethau lefel 7 yng Nghymru, sy’n dadwreiddio darpar gyfreithwyr a allai fel arall fod wedi datblygu eu doniau yn lleol. ‘Yn fy nhref enedigol, rydyn ni wedi colli dau berson ifanc 18 oed sydd wedi mynd i wneud prentisiaethau mewn cwmnïau cyfreithiol yn Llundain. Rydyn ni’n parhau i lobïo llywodraeth Cymru i unioni’r anghysondeb hwn,’ meddai.

Cyfarfu Evans â’i wraig, merch ffermwr defaid o’r Gorllewin, ym 1996. Fe wnaeth hyn siapio ei yrfa hefyd. ‘Am y 30 mlynedd diwethaf, rydw i wedi treulio’r rhan fwyaf o fy ngwyliau ar fferm: cneifio, ffensio, helpu allan yn gyffredinol. [Roedd Allington Hughes yn] gwmni panel Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ar gyfer y Gogledd a’r Canolbarth. Roedd y rhan fwyaf o fy nghleientiaid yn ffermwyr, ond roeddwn i’n gallu uniaethu â nhw. Roedd gen i rywfaint o wybodaeth am eu byd.

‘Os yw pobl yn meddwl eich bod chi’n debyg iddyn nhw, maen nhw’n agor i fyny i chi ac yn ymddiried ynoch chi. Ac rydych chi’n creu cysylltiadau. Rydych chi’n cael gwaith gan genedlaethau – taid, tad, merch. Ac roedd hyn cyn y rhyngrwyd a ffonau symudol. Doedd gennym ni ddim cyfrifiadur. Cysylltiadau personol oedd popeth.’

Mae dechrau’r ‘oes peiriannau’ yn y gyfraith ers hynny wedi atomeiddio bywydau cyfreithiol, sy’n poeni Evans. Mae’n sôn am un cyfreithiwr y mae’n ei adnabod sy’n gweithio o bell mewn fflat un ystafell wely yn Llundain. Mae hi’n ‘symud ei chadair o’r gegin i’r ystafell wely’, meddai. ‘Gofynnais iddi, “wyt ti’n mynd allan o gwbl?” “Pryd wyt ti’n diffodd y cyfrifiadur a chael seibiant?” Dydy hi ddim. Mae hi ar gyflog anhygoel o dda, ond pa fath o fywyd yw hynna? Dwi ddim yn gwybod.’

Sy’n dod â ni at thema lywyddol arall sy’n gysylltiedig â chymuned - iechyd meddwl a llesiant meddyliol. Mae amseru Evans yn berffaith, gan fod y cyfweliad hwn yn cael ei gyhoeddi ar Ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd.

‘Mae cyflymder cyfathrebu wedi effeithio’n ddwfn ar y proffesiwn cyfreithiol,’ meddai. ‘Unwaith, gallet ti adael y swyddfa ddydd Gwener ac aros i’r post gael ei agor ar fore Llun, nawr rwyt ti’n cael dy lethu. Mae pobl yn gallu anfon neges atat ti bob awr o’r dydd drwy negeseuon e-bost a negeseuon ffôn.

‘Er ein bod ni’n gallu addasu a defnyddio technoleg, mae’n rhaid i ni hefyd gael rhywfaint o arweiniad neu fframwaith ar beth yw’r “norm”. Mae angen rheoli disgwyliadau pobl. Ni ddylai cyfreithwyr fod yn ateb negeseuon e-bost y tu allan i oriau arferol. Mae angen i unigolion ofalu am eu hiechyd a’u lles eu hunain, ond mae angen i ni edrych ar yr hyn y gall cwmnïau cyfreithiol ei wneud i gynorthwyo.’

Ychwanega: ‘Fy nheimlad i yw bod angen i ni feddwl am yr hyn y gallwn ni ei wneud i newid ein hamgylchedd gwaith. Dydw i erioed wedi cymryd mwy nag wythnos o wyliau. Roedd rhaid i ni ofyn am ganiatâd i gael mwy na phythefnos. Y dyddiau yma, dydy pythefnos ddim yn ddigon. Mae angen i gwmnïau feddwl am gynnig gwyliau di-dâl, neu seibiannau gyrfa, neu beth bynnag sydd angen iddyn nhw ei gynnig – oherwydd mae angen i bobl gael hoe. Os oes rhaid iddyn nhw gadw i fynd drwy’r amser, mae pobl naill ai’n mynd i adael y proffesiwn neu gael problemau gyda’u hiechyd meddwl.’

Mark Evans

Source: Darren Filkins

Does dim amheuaeth bod gan y proffesiwn broblem ddifrifol yma. Canfu arolwg a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf gan yr elusen iechyd meddwl LawCare fod dwy ran o dair o weithwyr gwasanaethau cyfreithiol eisiau rhoi’r gorau i’r sector yn y pum mlynedd nesaf. Dywedodd mwy na thri chwarter (79%) yr ymatebwyr eu bod yn gweithio mwy o oriau nag sydd yn eu contract yn rheolaidd, tra bod 8.5% yn amcangyfrif eu bod yn gweithio o leiaf 21 awr o oramser bob wythnos. Dywedodd hanner eu bod wedi profi gorbryder yn aml neu drwy’r amser yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Bydd Evans yn mynd i lansiad ffurfiol adroddiad LawCare yr wythnos nesaf, lle bydd trafodaeth banel ar ddyfodol y proffesiwn.

Mae cyfreithwyr ifanc yn arbennig yn agored i niwed – dydyn nhw ddim yn cael eu hugeiniau a’u tridegau yn ôl pan fydd beichiau’r swydd yn lleddfu.

‘Yn uwchgynhadledd cyfreithwyr iau y llynedd, gofynnwyd i mi pa gyngor y byddwn i’n ei roi wrth edrych yn ôl ar fy mywyd fy hun. Fy ateb oedd, “peidiwch â stopio gwneud y pethau rydych chi’n eu mwynhau”. Rydyn ni’n cyrraedd ein hugeiniau ac mae ein gyrfa’n cymryd drosodd, ac efallai bod ein teulu’n cymryd drosodd. Pe bawn i’n gallu newid unrhyw beth, efallai y dylwn i fod wedi parhau i wneud rhai o’r pethau hynny.’

Fel pob llywydd Chancery Lane, mae Evans hefyd yn cael mwynhau 12 mis o dan y chwyddwydr gwleidyddol fel wyneb cyhoeddus y Gymdeithas. Dydy hynny ddim yn hawdd, pan fo polisïau problematig sy’n amrywio o ddileu rhai achosion rheithgor i adael y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol wedi cyrraedd y brif ffrwd. Wrth i’r baneri chwifio o bostyn lamp yn agos atoch chi, mae San Steffan yn troi’n wyllt. Mae hyd yn oed ysgrifennydd cartref Llafur a chyn-arglwydd ganghellor eisiau rhoi rhagor o waharddiadau ar bobl yn eu hwythdegau sy’n chwifio placardiau.

Sut mae Evans yn bwriadu herio’r stereoteipiau ‘fat cat’ ac ‘ambulance-chaser’ ystrydebol er mwyn sicrhau bod y proffesiwn yn cael chwarae teg?

‘Un maes sydd o bwys mawr i mi yw effaith y sector cyfreithiol ar yr economi,’ meddai.

Pwynt da. Cyfrifodd Cymdeithas y Cyfreithwyr ym mis Mawrth fod y sector cyfreithiol yn cyfrannu £74.4bn at yr economi, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol, ac wedi allforio £9.5bn yn 2023. Ond mae Evans yn cymryd safbwynt llai eang, gan ddychwelyd unwaith eto at y gair ‘cymuned’.

‘Mae’r sector cyfreithiol lleol yn rhan annatod o’r gymuned leol ac yn cefnogi’r gymuned leol,’ pwysleisia. ‘Rydyn ni ar bron pob stryd fawr ym mhob tref yng Nghymru a Lloegr. Cyferbynnwch chi hynny â’r rhan fwyaf o fanciau a chymdeithasau adeiladu, sydd wedi gadael. Yr hyn rwy’n ei ddweud wrth wleidyddion yw bod cyfreithwyr yn darparu gwasanaeth cymunedol sy’n llawn mor bwysig â’r gwasanaethau iechyd neu addysg. Mewn cymhorthfa ar ddydd Gwener, beth yw’r materion sy’n wynebu ASau? Materion cyfreithiol ydyn nhw. Problemau gyda thai, neu’r awdurdod lleol, er enghraifft.’

Mae’n dod i’r casgliad: ‘Mae’r mwyafrif helaeth o gyfreithwyr yn gwneud gwaith anhygoel, drwy’r dydd, bob dydd, ar bob math o bynciau. Ond ychydig iawn o glod neu ddiolch maen nhw’n ei gael am hynny.

‘Os gallan nhw [gwleidyddion] fod yn gadarnhaol am y rôl bwysig rydyn ni’n ei chwarae mewn cymunedau ac mewn cymdeithas, efallai y gallwn ni newid y naratif o ran sut mae cyfreithwyr yn cael eu portreadu gan y wasg ac yn cael eu gweld gan y cyhoedd.’

Topics